COMEDI LAWR Y BAE
Ad/Lib Cymru yn cyflwyno noson o chwerthin lawr y Bae gyda chomediwyr hen a newydd – ac yn achos Phyl a Ieu – hen iawn!
Alun Saunders fydd yn eich harwain drwy noson sy’n rhoi cyfle i gomediwyr newydd fel Iestyn Gwyn Jones a Victoria Pugh i rhannu llwyfan gydag hen law yn y maes - Esyllt Sears.
Daeth Esyllt ar restr ‘Menywod i’w gwylio ym myd comedi’ (allan o 400 o
gomediwragedd eraill) yng nghystadleuaeth Funny Women yn 2017.
Ers hynny mae wedi gwneud setiau comedi yn Sesiwn Fawr Dolgellau 2018 gyda pherfformwyr eraill megis Hywel Pitts a Jâms Thomas, yn Eisteddfod Caerdydd lle bu'n rhan o'r gig gomedi gyntaf gan ferched yn unig yn y Gymraeg, ac yn ei thref genedigol, Aberystwyth ac fel rhan o Ŵyl Gomedi Aberystwyth a sesiynau comedi yn Lloegr.
Mae Alun, nid yn unig yn enwog am fod yn gomediwr ond hefyd yn actor ac yn ddramodydd - heb anghofio’i alter ego ‘Connie Orff’.
Mae Phyl a Ieu yn hapus i gael perfformio yn yr Eglwys Norwyaidd – i ddweud y gwir yn eu hoed a’u hamser ma’ nhw’n hapus i berfformio unrhywle!
Noddwyd y noson gan: gwaliaclothing.com.
~
An evening of Welsh language stand up comedy.
Food and drink will be available at the Norsk Cafe Bar & Terrace before, during and after the performance.
Bydd bwyd a diod ar gael cyn, yn ystod ac ar ôl y perfformiad yng Nghaffi, Bar a Theras Norsk.
<
Comedi Lawr y Bae
![Comedi Lawr y Bae](https://fixr-cdn.fixr.co/images/event/2024-01/d56ae7c680ab4065af15367b0ca8c27f.jpeg)
Comedi Lawr y Bae
Norwegian Church Arts Centre
Cardiff
About
Organised by
Venue
Opens Fri 8th Mar at 7:30 PM (GMT)